Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Tachwedd 2023 Dileu hidlydd

Gwaith wedi’i gwblhau ar gwrt blodau o’r radd flaenaf yn Amlosgfa Llangrallo

Dydd Iau 30 Tachwedd 2023

Mae’r gwaith wedi’i gwblhau bellach ar gwrt blodau o’r radd flaenaf yn Amlosgfa Llangrallo, ac mae angladdau’n cael eu cynnal unwaith eto ym mhrif leoliad Capel Crallo yn dilyn cwblhau’r gwaith.

Deg mlynedd o sgorio hylendid bwyd

Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023

Mae’r mis hwn yn nodi deg mlynedd o Sgorau Hylendid Bwyd ers eu cyflwyniad fel gofyniad cyfreithiol yng Nghymru yn ôl yn 2013.

Lladron yn targedu mynwentydd ac yn amharu ar gyflenwadau dŵr

Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023

Mae Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus ac i adrodd unrhyw ymddygiad amheus y gallant fod yn dyst iddo mewn mynwentydd lleol.

Annog pobl i gefnogi Apêl Siôn Corn 2023 - nid yw'n rhy hwyr i gyflwyno rhodd!

Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023

Hoffai adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddiolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi i Apêl Siôn Corn eleni, a’ch atgoffa bod amser o hyd ar ôl, ichi gyflwyno rhodd.

Cabinet yn cymeradwyo Polisi Diogelu diwygiedig y Cyngor

Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo Polisi Diogelu Corfforaethol diwygiedig a fydd yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn werthoedd craidd yn Ysgol Gynradd Llangrallo

Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023

Mewn arolwg Estyn diweddar, canmolwyd Ysgol Gynradd Llangrallo am annog y dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth dda o bwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Y Cyngor yn dangos cefnogaeth i oroeswyr a phobl sy’n dioddef o drais yn y cartref

Dydd Llun 27 Tachwedd 2023

Mae Rhuban Gwyn yn ymgyrch ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd sy’n dechrau ar 25 Tachwedd ac yn anelu i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â thrais gan ddynion yn erbyn merched. Mae symbol y Rhuban Gwyn yn cynrychioli ein cred bod trais, waeth ym mha ffurf, yn annerbyniol.

Gwaith adeiladu Pafiliwn y Grand Porthcawl ar fin mynd allan i dendr

Dydd Iau 23 Tachwedd 2023

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i waith adeiladu Pafiliwn y Grand Porthcawl fynd allan i dendr ar ôl cwblhau’r broses ddylunio.

Y cyngor yn cytuno i drosglwyddo arian dan Raglen Gyfalaf er mwyn cefnogi camau olaf ailddatblygu neuadd tref

Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i drosglwyddo arian o’i gronfa Rhaglen Gyfalaf i gefnogi camau olaf ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.

Agor ymgynghoriad i lywio Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad newydd y cyngor

Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi agor ymgynghoriad yn ddiweddar i gynorthwyo â’r gwaith o lywio sut mae’r cyngor yn ymwneud â phreswylwyr mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion pwysig sy’n effeithio ar gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.

Chwilio A i Y

Back to top