Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Tachwedd 2023 Dileu hidlydd
Tîm arlwyo Ysgol Gyfun Bryntirion yn ennill gwobr!
Dydd Gwener 17 Tachwedd 2023
Cafodd y tîm arlwyo yn Ysgol Gyfun Bryntirion ei gydnabod am ei wasanaeth rhagorol drwy ennill gwobr ‘Tîm Arlwyo’r Flwyddyn’ yng ngwobrau’r Gymdeithas Arweiniol ar gyfer Arlwyo mewn Addysg (LACA CYMRU), a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Vale fis diwethaf.
Llesiant disgyblion yn brif flaenoriaeth i staff Ysgol Gynradd Garth
Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023
Yn ystod arolwg Estyn diweddar, nodwyd bod llesiant disgyblion yn hollbwysig i staff Ysgol Gynradd Garth, yn ogystal â chreu amgylchedd lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u meithrin.
Y Cyngor yn cefnogi clwb rygbi gyda gwelliannau hanfodol i gae pob tywydd
Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi helpu i sicrhau cyllid mawr ei angen er mwyn cefnogi Clwb Rygbi Mynydd Cynffig gyda gwelliannau hanfodol i’w cae rygbi yng Nghaeau Chwarae Croft Goch.
Cyngor yn cyhoeddi ymgyrch Nadolig blynyddol i roi hwb i ganol trefi.
Dydd Gwener 10 Tachwedd 2023
Mae’r cyngor yn cyhoeddi ei ymgyrch blynyddol ‘Treuliwch yr Ŵyl yng nghanol eich tref' yr wythnos hon, fel rhan o fenter i annog pobl i ‘siopa’n lleol' a chefnogi busnesau annibynnol.
Cynilwyr campus o Ysgol Gynradd Corneli yn ennill gwobr gan Undeb Credyd
Dydd Gwener 10 Tachwedd 2023
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Corneli wedi ennill ‘Gwobr Partneriaeth Ysgolion Uchel ei Bri'r Undeb Credyd’ am eu gwaith gydag Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr. Cipiodd y dysgwyr y wobr yng ngwobrau Undebau Credyd Cymru yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd fis diwethaf.
Tîm Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr wrth y llyw i gyflwyno gwasanaethau i bobl ifanc
Dydd Mercher 08 Tachwedd 2023
Mae tîm Cymorth Ieuenctid a thîm Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi uno i hwyluso'r gwaith o gyflwyno canolfan ieuenctid symudol newydd, a fydd yn cynnig gwasanaethau cymorth ieuenctid i gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.
Cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2024 ar agor
Dydd Mercher 08 Tachwedd 2023
Mae cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2024 ar agor.
Cyflwyno prosiect arloesol i gefnogi plant a phobl ifanc
Dydd Mercher 08 Tachwedd 2023
Roedd 18 Hydref yn nodi lansiad y prosiect ‘Meithrin Perthnasoedd gyda’n Gilydd’ (RBT) - menter sy’n gwerthuso sut y gall gwasanaethau sy’n defnyddio’r Model Gwella o Drawma (TRM) fod o fudd i blant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan drawma.
Sul y Cofio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mawrth 07 Tachwedd 2023
Ddydd Sadwrn 11 Tachwedd (Diwrnod y Cadoediad) a dydd Sul 12 Tachwedd (Sul y Cofio), bydd trefi a chymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal gwasanaethau, digwyddiadau a gorymdeithiau ar gyfer Sul y Cofio 2023.
Amserlen newydd ar gyfer gwaith ar gyrtiau tennis ym Mharc Griffin
Dydd Llun 06 Tachwedd 2023
Mae’r gwaith i sefydlu dau gwrt tennis newydd ym Mharc Griffin ym Mhorthcawl wedi cael ei oedi am gyfnod byr tra bod pwynt mynediad ffurfiol i gontractwyr i'r safle yn cael ei sefydlu.