Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Chwefror 2024 Dileu hidlydd
Hafan naturiol i'w datblygu ar gae chwarae Heol-y-Cyw
Dydd Mercher 14 Chwefror 2024
Drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a’r bartneriaeth rhwng Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Cymuned Llangrallo Uchaf, mae ardal chwarae newydd ar gyfer natur a’r gymuned ar fin cael ei datblygu ar gae chwarae Heol-y-Cyw.
Gwahodd grwpiau celfyddydau perfformio ‘y tu ôl i’r llenni’ i weld gwaith ailddatblygu adeilad hanesyddol
Dydd Mawrth 13 Chwefror 2024
Gwahoddwyd rhai o grwpiau defnyddwyr rheolaidd Neuadd y Dref Maesteg ar ymweliad ‘y tu ôl i’r llenni’ i weld y cynnydd o ran y gwaith i ailddatblygu’r adeilad hanesyddol.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn llofnodi’r Siarter Rhianta Corfforaethol
Dydd Llun 12 Chwefror 2024
Ar ôl cael cymeradwyaeth gan ei Bwyllgor Cabinet ar Rianta Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi llofnodi Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru (External link - Opens in a new tab or window). Trwy wneud hyn, addewir rhoi cymorth parhaus i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal trwy’r fwrdeistref sirol, gan sicrhau y cânt yr un cyfle i gyflawni eu potensial â’u cyfoedion – ymrwymiad sy’n cyd-fynd â Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd yr awdurdod lleol, a lansiwyd ym mis Ebrill 2023.
Cefnogaeth i wasanaethau bws masnachol yn 2024-25
Dydd Gwener 09 Chwefror 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd cyllid Grant Rhwydwaith Bysiau ar gyfer 2024-25 yn ddigon i dalu am wasanaethau bysiau masnachol a dendrwyd yn ddiweddar, na fyddent o bosibl wedi gallu parhau ar ôl 31ain o Fawrth hebddo.
Ysgol Heronsbridge yn cael adroddiad arolygiad eithriadol
Dydd Iau 08 Chwefror 2024
Gan ymuno â grŵp bach iawn o ysgolion o bob rhan o Gymru, mae Ysgol Heronsbridge yn un o ddim ond dwy ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i lwyddo i beidio â bod angen unrhyw argymhellion yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn.
Gwaith wedi’i gwblhau ar gae chwaraeon cymunedol newydd Ysgol Brynteg
Dydd Iau 08 Chwefror 2024
Mae cae chwaraeon amlddefnydd newydd cwbl fodern wedi cael ei agor yn swyddogol bellach yn Ysgol Brynteg er budd y disgyblion a’r gymuned ehangach.
Ymarferydd arweiniol Cyfiawnder Ieuenctid yn ennill cymeradwyaeth uchel ei bri ar ffurf gwobr sy’n cyfateb i’r ‘Oscars’ yn y sector
Dydd Mawrth 06 Chwefror 2024
Mae’r effaith gadarnhaol a gaiff Debbie Jones, Ymarferydd Arweiniol Trawma yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, yn treiddio trwy fywydau plant di-rif, yn ogystal â bywydau ei chydweithwyr – rhodd a gydnabuwyd ar ffurf cymeradwyaeth uchel ei bri gan Wobrau Ymddiriedolaeth Butler, a ddisgrifir fel yr ‘Oscars’ yn y sector gwarchodol a chyfiawnder cymunedol.
Sam Warburton, cyn-gapten rygbi Cymru, yn cynorthwyo Ysgol Gyfun Bryntirion i oleuo’r llwybr ar gyfer dyfodol y disgyblion
Dydd Iau 01 Chwefror 2024
Mae Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith (CWRE) yn siapio’r cwricwlwm yn Ysgol Gyfun Bryntirion, gan gynnig amrywiaeth eang o brofiadau dysgu dilys sy’n canolbwyntio ar feithrin sgiliau trawsgwricwlaidd. Mae un prosiect gyrfaoedd, yn arbennig, wedi cael cymorth gan Sam Warburton, cyn-gapten Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon.