Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Awst 2023 Dileu hidlydd
Grant Hanfodion Ysgol ar gael i gefnogi dysgwyr cymwys
Dydd Mawrth 15 Awst 2023
A ninnau ar drothwy blwyddyn ysgol newydd, caiff rhieni a gofalwyr eu hatgoffa i wirio a ydynt yn gymwys i dderbyn Grant Hanfodion Ysgol sy’n cynnig cefnogaeth i brynu eitemau angenrheidiol megis gwisg ysgol.
Cwmnïau bws lleol yn cyhoeddi newidiadau i’w gwasanaethau bws
Dydd Gwener 04 Awst 2023
Bydd gweithredwyr bws ar draws Cymru yn cyhoeddi addasiadau cofrestredig i rai o’r gwasanaethau y gallant eu cynnig, yn bennaf oherwydd y newidiadau yn y cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru.
Cabinet yn cymeradwyo trosglwyddo tir yn gynnar i Goleg Penybont.
Dydd Gwener 04 Awst 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo trosglwyddo tir yn gynnar i Goleg Penybont ar gyfer campws newydd yng nghanol y dref.
Cyllideb o £300,000 i fyfyrwyr ar gyfer teithio i Goleg Penybont
Dydd Gwener 04 Awst 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo sut y bydd cronfeydd arian yn cael eu defnyddio i ddarparu pasys bws blynyddol safonol i fyfyrwyr coleg yn y flwyddyn academaidd nesaf, sef myfyrwyr sy’n byw ymhellach na thair milltir o Goleg Penybont. Bydd y pasys yn cael eu defnyddio ar wasanaethau presennol First Cymru, yn hytrach nag ar wasanaeth bysiau coleg pwrpasol – rhywbeth a fydd, yn ei dro, yn cefnogi rhwydweithiau bysiau ledled y fwrdeistref sirol.
Lansio ymgyrch newydd ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd er mwyn annog mwy o aelwydydd i weithredu.
Dydd Mawrth 01 Awst 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lapio pump o gerbydau casglu fel rhan o ymgyrch eang i annog aelwydydd i ailgylchu gwastraff bwyd ledled y fwrdeistref sirol.