Sgipiau sgaffaldiau a phalmentydd wedi gostwng
Gwybodaeth a ffurflenni cais am drwydded ar gyfer sgipiau, sgaffaldiau a gostwng palmentydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gwneud cais am drwyddedau sgipiau a sgaffaldiau
Rydym yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer sgipiau a sgaffaldiau. Maent yn caniatáu i sgipiau a sgaffaldiau gael eu lleoli ar droedffyrdd, lleiniau ymyl a lonydd cerbydau. Fodd bynnag, mae trwyddedau ond ar gyfer contractwyr dilys a chânt eu harchwilio i sicrhau bod sgipiau a sgaffaldiau yn cynnal ein hamodau.
Ymgeisio i greu cwrbyn is
Mae’n rhaid i ni roi cymeradwyaeth i chi ddechrau adeiladu neu addasu mynedfa i gerbydau. Mae ein caniatâd yn cynnwys addasu’r briffordd, boed hynny’n lôn gerbydau, troedffordd neu lain ymyl. Mae cynnal gwaith o’r fath heb ein caniatâd yn drosedd o dan y Ddeddf Priffyrdd, a gall arwain at erlyniad.
Yn dilyn cymeradwyaeth gychwynnol, mae cyfres o archwiliadau a chytundebau. Mae’r rhain yn sicrhau bod y gwaith yn bodloni ein safonau, ac os ydyw’n cyd-fynd â’n manylebau, caiff y gwaith gorffenedig ei gwblhau.
Cysylltu
I gael cymorth i lenwi’r ffurflenni sgipiau, sgaffaldiau neu fynedfa i gerbydau perthnasol: