Bandiau treth gyngor

Mae eich eiddo wedi cael ei osod mewn un allan o naw band prisio’n seiliedig ar ei werth cyfalaf ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2003. Dyma’r bandiau:

Band prisio Ystod o brisiau (fel ar 1 Ebrill 2003)
A Hyd at £44,000
B £44,001 hyd at £65,000
C £65,001 hyd at £91,000
D £91,001 hyd at 123,000
E £123,001 hyd at £162,000
F £162,001 hyd at £223,000
G £223,001 hyd at £324,000
H £324,001 hyd at £424,000
I £424,001 a mwy

Apelio yn erbyn band treth gyngor

Gallwch apelio yn erbyn eich band treth gyngor os ydych chi mewn un anghywir. Ond mae’r rheolau ar gyfer apelio’n llym ac yn cynnwys y canlynol:

  • ni chaniateir unrhyw apeliadau’n seiliedig ar symudiadau prisiau tai cyffredinol
  • rhaid i chi apelio o fewn chwe mis i brynu’r eiddo
  • rhaid i chi ddangos bod camddealltwriaeth wedi bod ynghylch gwerth eich eiddo

Cyswllt

Cyfeiriad: Y Swyddog Rhestru, Y Swyddfa Brisio, Tŷ Rhodfa, Heol Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GR.
Ffôn: 0300 050 5505
Cyfeiriad ebost: nsohelpdesk@voa.gsi.gov.uk

Nid yw apelio’n caniatáu i chi wrthod talu’r dreth gyngor. Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, gwneir addasiad.

Chwilio A i Y

Back to top