Pobl sy’n gadael gofal
Gall rywun sy’n gadael gofal gael ei eithrio rhag gorfod talu Treth y Cyngor os yw’n byw ar ei ben ei hun neu gyda phobl eraill sy’n gadael gofal neu fyfyrwyr yn unig.
Os yw’n byw gydag oedolion eraill, gall fod yn gymwys i gael gostyngiad diystyru o 25%.
Mae’r Rheoliadau’n diffinio person sy’n gadael gofal fel person sy’n -
- 24 oed neu’n iau (nid yw’n gymwys o’i ben-blwydd yn 25 oed); ac sy’n
- Berson ifanc yng nghategori 3 fel a diffinnir gan Adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gallwch wneud cais ar-lein, yn gyntaf bydd angen i chi fewngofnodi/cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif i gael mynediad i borth Treth y Cyngor, dewiswch Gwasanaethau ac yna'r ffurflen gais Gadawyr Gofal.