Anghenion Dysgu Ychwanegol

Gwybodaeth a chyngor i rieni/gofalwyr a phobl ifanc am ADY, y system ADY newydd, a’r hyn y mae’r newidiadau yn ei olygu i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd y bydd plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn cael eu cefnogi. Mae’r system newydd yn diffinio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y gyfraith newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY yn arwain ar sawl prif newid a fydd yn gwneud y broses yn symlach ac yn fwy tryloyw i bawb sy’n gysylltiedig.

Cael cefnogaeth: canllaw cam wrth gam

  • Siaradwch ag athro eich plentyn - Os ydych chi’n credu bod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) siaradwch ag athro neu gydlynydd ADY eich plentyn (CydADY).
  • Creu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) gyda'ch gilydd - Os yw'r ysgol yn cytuno â chi bod gan eich plentyn ADY, bydd yr ysgol yn gweithio gyda chi a'ch plentyn i greu CDU.
  • Trafod unrhyw bryderon gyda'r ysgol, neu'r awdurdod lleol - Os nad yw'r ysgol yn cytuno bod gan eich plentyn ADY, neu os ydych chi'n anfodlon â CDU eich plentyn, trafodwch ef gyda'r ysgol neu'r awdurdod lleol
  • Gallwch gael mynediad at eiriolwr - Os yw'r awdurdod lleol yn cytuno â'r ysgol ond eich bod chi’n anhapus o hyd, gallant eich cyfeirio at wasanaethau eirioli annibynnol
  • Mae gennych hawl i apelio - Mae gan bob plentyn a pherson ifanc a'u rhieni neu ofalwyr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau i Dribiwnlys Addysg Cymru

Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Blynyddoedd Cynnar

Rôl y Swyddog ADY yn y Blynyddoedd Cynnar yw gweithio gyda rhieni, lleoliadau blynyddoedd cynnar, gweithwyr iechyd proffesiynol ac eraill a allai fod yn gweithio gyda phlant sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, i godi ymwybyddiaeth o’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac i hyrwyddo ymyrraeth gynnar.

Mae’r Swyddog ADY yn y Blynyddoedd Cynnar yn gyfrifol am gydgysylltu rôl yr awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir. 

Chwilio A i Y

Back to top