Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Arian Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i gynlluniau teithio llesol lleol
Dydd Iau 06 Gorffennaf 2023
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael £1.5m i hwyluso llwybrau teithio llesol newydd a gwell ledled y fwrdeistref sirol. Bydd y gwelliannau’n cynnwys adeiladu llwybrau teithio llesol newydd, gwaith ymgynghori ar gyfer datblygu’r cynllun yn y dyfodol, a gwaith hyrwyddo.
Caniatâd i symud ymlaen gydag ail gam rhaglen foderneiddio ysgolion Corneli
Dydd Iau 06 Gorffennaf 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo ail gam rhaglen datblygu ysgolion ar raddfa fawr yng Nghorneli, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae disgwyl i drefi lleol a chynghorau cymunedol elwa o gyllid y cyngor
Dydd Iau 06 Gorffennaf 2023
Bydd cymunedau ledled y fwrdeistref sirol yn derbyn grant o Gynllun Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned, gan ganiatáu i ddatblygiadau prosiectau cymunedol fynd rhagddynt.
Menter prydau ysgol am ddim yn cael ei ehangu i ddisgyblion blwyddyn 3 mewn ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mawrth 04 Gorffennaf 2023
O fis Medi 2023, bydd oddeutu 1600 o ddisgyblion ysgol gynradd sy'n dechrau ym Mlwyddyn 3 yn cael cynnig prydau ysgol am ddim.
10K Porthcawl yn dychwelyd ddydd Sul yma
Dydd Gwener 30 Mehefin 2023
Mae trigolion a busnesau Porthcawl wedi bod yn paratoi ar gyfer dychweliad 10K Ogi Porthcawl y penwythnos hwn a fydd yn ddigwyddiad rhedeg mwyaf Cymru’r haf hwn.
Y Cyngor yn cynnig cefnogaeth lawn i weithwyr Zimmer Biomet
Dydd Iau 29 Mehefin 2023
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi disgrifio'r newydd fod Zimmer Biomet yn bwriadu rhoi'r gorau i gynhyrchu yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel 'ergyd drom i'r staff ac i'r economi leol'.
Cynigion ar gyfer Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg Porthcawl yn parhau i wneud cynnydd
Dydd Iau 29 Mehefin 2023
Mae cynlluniau ar gyfer ysgol egin cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed Porthcawl wedi symud ymlaen i'r cam nesaf ar ôl i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymeradwyo canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.
Cyngor yn cymeradwyo Asesiad Effaith ar Drwyddedu ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Iau 29 Mehefin 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cyhoeddi’r Asesiad Effaith Gronnol (CIA). Mae hyn yn tynnu sylw at y ffordd mae crynhoad o safleoedd trwyddedig yn effeithio ar lefelau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol arall mewn ardaloedd penodol o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Eco Arwyr Cefn Glas yn ennill Gwobr Platinwm Ysgol Eco am y seithfed tro!
Dydd Iau 29 Mehefin 2023
Mae Eco Arwyr Ysgol Fabanod Cefn Glas wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion ym maes cynaliadwyedd, yn ogystal ag wrth ddatblygu tir eu hysgol i hyrwyddo bioamrywiaeth a thyfu eu cynnyrch bwyd eu hunain.
Y Cyngor yn lansio ymgyrch i dynnu sylw at y rhai sydd wedi ennill gwobrau bwyd y byd yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mercher 28 Mehefin 2023
Mae ffilm fer newydd sy’n arddangos y dewis eang o fwytai ‘cyrchfan’ sydd wedi’u lleoli yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i rhyddhau fel rhan o ymgyrch ‘Treulio’r Haf yng nghanol eich tref’ y cyngor.