Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Y cyfle olaf i wneud cais am gyllid ‘hybiau cynnes’
Dydd Iau 09 Ionawr 2025
Mae tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), yn galw am y tro olaf am geisiadau ar gyfer y 'Cynllun Grant Hybiau Cynnes' a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Y Cyngor yn cyhoeddi ‘Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2024’
Dydd Mawrth 07 Ionawr 2025
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dilyn cyflwyniad o’r uchafbwyntiau i’r Cyngor ar gynlluniau i wella’r gwasanaeth, ac yn ystyried y cynnydd sylweddol a wnaed dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond hefyd yn tynnu sylw at yr heriau o fodloni lefelau anghenion mewn cyd-destun ariannol anodd i lywodraeth leol.
Amser Cyllideb I Siarad 2025-26
Dydd Mawrth 07 Ionawr 2025
Ar gyfer 2025-2-26, bydd y cyngor yn debygol o dderbyn cynnydd o 4 y cant yn setliad y gyllideb ar gyfer 2025-26. Yn anffodus, ni fydd hyn yn ddigon i ysgwyddo costau cynyddol a mwy o alw am wasanaethau.

Adnewyddiadau yn Ysgol Gyfun Pencoed yn derbyn cymeradwyaeth ardderchog gan ddisgyblion
Dydd Gwener 20 Rhagfyr 2024
Yn gynharach eleni, cwblhawyd adnewyddiadau i gyfleusterau Ysgol Gyfun Pencoed ar gyfer ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ynghyd ag adeiladu Canolfan Bêl-rwyd Pencoed ar y safle, sy’n cynnwys dau gwrt pêl-rwyd newydd ar gyfer yr ysgol, a defnydd cymunedol.
Y Cyngor a phartneriaid yn cadarnhau trefniadau’r Nadolig
Dydd Iau 19 Rhagfyr 2024
Atgoffir preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y bydd newidiadau i rai gwasanaethau a gynigir gan y cyngor a’i bartneriaid dros y gwyliau Nadolig sydd i ddod.

Y cyngor yn diolch i'r cyhoedd am yr 'ymateb anhygoel' i Apêl Siôn Corn eleni!
Dydd Iau 19 Rhagfyr 2024
Diolch i ymateb ysgubol gan aelodau'r cyhoedd a haelioni grwpiau, eglwysi a busnesau lleol, mae Apêl Siôn Corn 2024 wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl!
Y cabinet yn cymeradwyo Adroddiad Diogelu Corfforaethol blynyddol
Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024
Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr adroddiad Diogelu Corfforaethol 2023 - 2024, sy’n amlinellu’r ddarpariaeth ddiogelu eang a gynigir y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â sut mae oedolion a phlant bregus yn parhau i gael eu cefnogi ar draws bob cyfarwyddiaeth, gan gynnig dull ‘un cyngor’ i ddiogelu.

Ysgol Gynradd Newton yn cyrraedd rowndiau terfynol Llundain ar gyfer ‘Cân yr Ysgol DU 2024’
Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024
Yn gynharach eleni, cyfansoddodd disgyblion Ysgol Gynradd Newton, Porthcawl, eu cân wreiddiol eu hunain, a mynd i Lundain i gynrychioli Cymru a pherfformio yn rowndiau terfynol ‘Cân yr Ysgol DU 2024’, ar ôl cael eu rhoi ar y rhestr fer yn dilyn dros fil o geisiadau.

Dathlu prosiect ‘Tackle after Dark’ yn Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru
Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024
Tynnwyd sylw at brosiect arloesol sydd â’r nod o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws y fwrdeistref sirol yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2024 ar y 28ain o Dachwedd. Enillodd y cynllun ‘Tackle after Dark’, prosiect ar y cyd rhwng adran Cymorth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru (HDC), a gefnogir gan Gweilch yn y Gymuned, y wobr ‘Partneriaethau’ yn y seremoni.
Gwaith clirio sylweddol ar y gweill ledled y fwrdeistref sirol o ganlyniad i effeithiau Storm Darragh
Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024
Mae gwaith clirio sylweddol ar y gweill ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn y difrod sylweddol a’r amhariad a achoswyd gan Storm Darragh dros y penwythnos.