Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ysgol Gynradd Gatholig St Robert yn derbyn canmoliaeth am greu diwylliant meddylgar a chynhwysol

Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024

Yn ystod arolwg Estyn yn gynharach eleni, cafodd nifer o gryfderau Ysgol Gynradd Gatholig St Robert eu cydnabod, ac yn arbennig felly ei diwylliant cynhwysol a’i gallu i feithrin ymdeimlad cadarn o berthyn ymysg ei dysgwyr.

Llwyddiant yn codi arian ar gyfer 'Gwobrau Cyflawniad Plant a Phobl Ifanc'

Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024

Cafodd Gwobrau Cyflawniad Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr eu cynnal ddydd Llun 28 Hydref yn Academi STEAM, Coleg Penybont, Pencoed.

Bydd Storm Darragh yn taro Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont at Ogwr yn yr oriau mân

Dydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024

Yn dilyn rhybudd ddoe ynghylch tywydd garw yn taro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y penwythnos hwn. Mae’r Met Office nawr wedi uwchraddio ei rybudd tywydd Melyn ar gyfer ‘gwyntoedd cryfion’ i Goch ar gyfer ‘gwyntoedd mawr’ ac Ambr ar gyfer glaw trwm.

Prif weithredwr i gamu lawr o’i rôl yn y cyngor

Dydd Llun 02 Rhagfyr 2024

Ar ôl chwe blynedd fel Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Mark Shephard wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu camu i lawr o’r rôl ac ymddeol yn 2025.

Y cyngoryn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau allweddol yn dilyn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiweddaraf

Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024

Bydd ystod eang o brosiectau, gan gynnwys cynllun £95 miliwn ar gyfer adeiladu tair ysgol o'r newydd nawr yn symud ymlaen yn dilyn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ddiweddaraf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y Cyngor llawn.

Ysgol Gyfun Cynffig yn derbyn gwobr aur am hyrwyddo’r iaith Gymraeg

Dydd Iau 28 Tachwedd 2024

Mae Ysgol Gyfun Cynffig wedi cipio’r prif safle o fod yr ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg gyntaf yn y Fwrdeistref Sirol i dderbyn Gwobr Aur Siarter Iaith Cymraeg Campus sy’n hynod o werthfawr. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o ymdrechion rhagorol o ddilyn y Siarter Iaith Gymraeg - rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i dylunio’n i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn arloesi wrth drosglwyddo i deleofal digidol mewn gofal cymdeithasol

Dydd Iau 28 Tachwedd 2024

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod cyntaf yng Nghymru i gwblhau trosglwyddiad digidol llwyddiannus o’i alwadau larwm teleofal argyfwng, i sicrhau’r diogelwch gorau i lesiant eu cleientiaid.

Diweddariad ar ffyrdd y fwrdeistref sirol yn dilyn Storm Bert

Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024

Yn dilyn y trafferthion sylweddol a achoswyd gan Storm Bert, mae criwiau’r ffyrdd a gyflogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod wrthi’n clirio a glanhau.

Diwrnod hanesyddol i Neuadd y Dref Maesteg wrth iddi groesawu’r cyhoedd yn ôl yn dilyn ailddatblygiad sylweddol

Dydd Llun 25 Tachwedd 2024

Nododd dydd Mercher 20 Tachwedd 2024 ddiwrnod hanesyddol i bobl Maesteg a Chwm Llynfi ehangach, wrth i Neuadd y Dref Maesteg agor ei drysau i’r cyhoedd yn swyddogol, yn dilyn prosiect ailddatblygu hynod uchelgeisiol gwerth nifer o filiynau o bunnoedd, a gyflawnwyd gan y Cyngor a’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Ymchwil newydd yn amlygu traweffaith bositif gweithwyr cymdeithasol yn y broses faethu

Dydd Llun 25 Tachwedd 2024

Gyda thros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ar draws Cymru, mae'r angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn dod yn fater brys cynyddol.

Chwilio A i Y

Back to top