Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ysgol Gynradd Brynmenyn yn disgleirio mewn arolygiad Estyn

Dydd Iau 23 Mawrth 2023

Mewn arolygiad gan Estyn yn ddiweddar, gwelwyd bod Ysgol Gynradd Brynmenyn yn llwyddo i helpu ei dysgwyr i ddatblygu.

Mae disgyblion Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mewn ysgolion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr ar fin elwa o brydau ysgol am ddim.

Dydd Iau 23 Mawrth 2023

O 17 Ebrill, dechrau tymor yr haf, bydd holl blant Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cynnig prydau ysgol am ddim.

Llwyddiant arolygiad Estyn i Ysgol Gynradd Afon y Felin

Dydd Mercher 22 Mawrth 2023

Mae Ysgol Gynradd Afon y Felin wedi ei barnu’n llwyddiannus yn cynorthwyo’i dysgwyr i ddangos cynnydd gan arolygwyr Estyn.

Bwyty yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ennill teitl ‘Bwyty Gorau Cymru 2023’

Dydd Llun 20 Mawrth 2023

Mae Morgan’s Bistro and Cocktail Bar yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ennill teitl ‘Bwyty Gorau Cymru 2023’ yng Ngwobrau Busnes Gorau Cymru 2023, a oedd yn cael eu cynnal yr wythnos yng Ngwesty Mecure Holland House yng Nghaerdydd.

Y Cyngor am fod yn gyflogwr sy’n Ystyriol o Faethu

Dydd Llun 20 Mawrth 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am fod yn gyflogwr sy’n Ystyriol o Faethu er mwyn helpu i annog ychwaneg o bobl i fynd yn ofalwyr maeth.

Dirprwy Arweinydd yn ennill Gwobr Cydraddoldeb!

Dydd Iau 16 Mawrth 2023

Mae'r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Jane Gebbie, wedi ennill Gwobr Ron Todd am Gydraddoldeb ar ôl cael ei henwebu gan fwy nag 11 o sefydliadau neu unigolion.

Cabinet yn cymeradwyo newidiadau i gontract adeiladu yn Cosy Corner Porthcawl

Dydd Iau 16 Mawrth 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu cymeradwyaeth ei Gabinet i addasu’r contract adeiladu ar gyfer gwaith yn Cosy Corner, Porthcawl.

Cynlluniau amgen ar waith oherwydd gwaith hanfodol i’r prif wasanaeth tu allan i oriau

Dydd Iau 16 Mawrth 2023

Bydd prif linell y cyngor y tu allan i oriau (01656 643643) yn cael ei heffeithio dros dro yfory (17 Mawrth) rhwng 6pm a 7pm.

Cyngor yn mabwysiadu safonau cenedlaethol ar gyfer archwilio ac atgyweirio priffyrdd

Dydd Iau 16 Mawrth 2023

Cytunwyd ar amserlen a meini prawf newydd ar gyfer cynnal archwiliadau cynnal a chadw priffyrdd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cabinet yn mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru

Dydd Iau 16 Mawrth 2023

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru a fydd yn cynnig mwy o gymorth i fusnesau cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Chwilio A i Y

Back to top