Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae angen eich barn ynghylch mynd i’r afael â phroblemau baw ci a pherchnogaeth cŵn anghyfrifol
Dydd Iau 16 Mawrth 2023
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau fis Ebrill ar gynlluniau i fynd i’r afael â phroblemau baw ci a pherchnogaeth cŵn anghyfrifol yn y fwrdeistref sirol.
Llwyddiant Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau!
Dydd Mercher 15 Mawrth 2023
Cyflwynwyd y wobr gyntaf am gymorth lles i Ysgol Gynradd Corneli. Gwahoddwyd yr ysgol gan Fuddsoddwyr mewn Teuluoedd i gymryd rhan yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles cyntaf Cymru, ac enillodd y wobr gyntaf am ddarparu’r ‘Cymorth Iechyd Meddwl Gorau yn ystod y Pandemig’.
Digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer campws canol tref newydd Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Iau 09 Mawrth 2023
Bydd canol tref Pen-y-bont yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ar 1 Mawrth i amlygu’r cynlluniau ar gyfer datblygiad y campws newydd.
Cymorth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl i barhau â darparwr newydd
Dydd Iau 09 Mawrth 2023
Bydd cymorth a chefnogaeth yn parhau i ofalwyr di-dâl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda darparwr newydd yn darparu gwasanaeth llesiant pwrpasol.
Oedi’r gwaith yng Ngwaith Dŵr Tondu er mwyn datrys y broblem draffig
Dydd Iau 09 Mawrth 2023
Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cytuno i oedi gwaith yn Nhondu am y tro gyda’r nod o ddod o hyd i ddatrysiad i’r problemau traffig o ganlyniad i’r gwaith.
Treialu dull newydd o arddangos gwybodaeth am fysiau
Dydd Iau 09 Mawrth 2023
Mae arwydd arddangos gwybodaeth am fysiau newydd, digidol, yn cael ei dreialu yng Ngorsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr.
Erfyn ar drigolion i gymryd pwyll wrth i’r eira gyrraedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mercher 08 Mawrth 2023
Mae trigolion yn cael eu cynghori i gymryd pwyll ar ôl i eira gyrraedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’r cyngor wedi rhoi cynlluniau ar waith i ymdopi ag effaith unrhyw amhariad posibl.
Cyngor yn rhoi cynlluniau ar waith wrth i’r Swyddfa Met gyhoeddi rhybudd tywydd am eira a rhew
Dydd Mawrth 07 Mawrth 2023
Mae’r Swyddfa Met wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am eira a rhew posibl yn ne Cymru, gyda’r rhybudd yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfle heb ei ail i lunio dyfodol man agored arfaethedig Porthcawl
Dydd Llun 06 Mawrth 2023
Gan gysylltu â chynlluniau adfywio Porthcawl, bydd dau ddigwyddiad ymgynghori anffurfiol yn cael eu cynnal ym mis Mawrth. Mae’r digwyddiadau hyn yn gwahodd trigolion lleol i leisio’u barn am sut y dylid defnyddio man agored cyhoeddus arfaethedig Porthcawl.
Canolfan Chwaraeon Maesteg yn dathlu 40 mlynedd gyda buddsoddiad o £400k
Dydd Iau 02 Mawrth 2023
Mae Canolfan Chwaraeon Maesteg yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 eleni gyda buddsoddiad o £400,000 mewn offer newydd a mannau ymarfer corff.