Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyllid grant ar gyfer mwy na 30 o Hybiau Cynnes

Dydd Llun 20 Chwefror 2023

Mae disgwyl i fwy na 30 o grwpiau a chanolfannau cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr dderbyn cyllid grant wrth iddynt barhau i agor mannau cynnes i bobl ddod ynghyd.

Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn elwa o gyllid ‘Croeso Cynnes’

Dydd Sul 19 Chwefror 2023

Bydd grwpiau a chanolfannau cymunedol ledled y fwrdeistref sirol yn elwa o’r Cynllun Grant Hybiau Cynnes, gyda thua £40,000 yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r fenter.

Cyngor yn cymryd perchnogaeth o geisiadau caniatâd ar gyfer adeiladau rhestredig Gradd II

Dydd Sul 19 Chwefror 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am Ddirprwyo Caniatâd Adeilad Rhestredig, gan ganiatáu i’r sefydliad ymdrin â cheisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig Gradd ll, heb fod angen cyfeirio at Weinidogion Cymru.

Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn cael ei henwebu am Wobr Cydraddoldeb

Dydd Gwener 17 Chwefror 2023

Mae'r Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, wedi ei henwebu ar gyfer Gwobr Ron Todd am Gydraddoldeb gan fwy nag 11 o sefydliadau neu unigolion.

Gwasanaeth Gwastraff Gardd Kier i ail-ddechrau yn y gwanwyn

Dydd Gwener 17 Chwefror 2023

Mae disgwyl i'r Gwasanaeth Gwastraff Gardd, sy'n cael ei ariannu'n llawn gan Kier, ail-ddechrau, gyda'r cwmni’n cynnig tanysgrifiad am ddim i rai trigolion ar hap.

Cyfle olaf i wneud cais am gymorth gan Sefydliad Chwaraeon Halo

Dydd Iau 16 Chwefror 2023

Gall athletwyr lleol ddilyn ôl traed eu harwyr Olympaidd a Pharalympaidd y mis hwn wrth i Sefydliad Chwaraeon Halo agor ar gyfer ceisiadau.

Gwaith yn dechrau'n fuan ar doriadau tân Comin Lock

Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn dechrau gweithio ar Gomin Lock ym Mhorthcawl yn fuan i ailddiffinio a lledu'r toriadau tân sydd eisoes yn bodoli.

Degau o swyddi ar gael yn y Ffair Swyddi Gofal Cymdeithasol nesaf

Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023

Bydd degau o swyddi gwag cyffrous yn y maes gofal cymdeithasol yn cael eu hyrwyddo mewn ffair swyddi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon.

Cadarnhau cyfleuster Metrolink newydd i Borthcawl

Dydd Llun 13 Chwefror 2023

Bydd Porthcawl yn elwa o gyfleuster Metrolink newydd sbon wedi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gytuno i gynyddu'r arian a fydd yn sicrhau na fydd angen lleihau'r prosiect er mwyn ei gyflawni.

Cyngor yn archwilio pob opsiwn i wella traffig ym Mhencoed

Dydd Llun 13 Chwefror 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau yn ymrwymedig i archwilio pob opsiwn sydd ar gael o ran gwella traffig ym Mhencoed er gwaethaf bod cais diweddar y cyngor i Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU wedi cael ei wrthod.

Chwilio A i Y

Back to top