Hawlio, ailraddio neu ddileu hawl dramwy

Defnyddir Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol i hawlio, ailraddio neu ddileu hawl dramwy.

Gall unrhyw un wneud cais amdano, ac mae’r hawliadau’n seiliedig ar naill ai dystiolaeth ddogfennol neu brawf o ddefnydd.

Er mwyn i’ch cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol fod yn llwyddiannus, rhaid i chi ddangos bod y cyhoedd wedi defnyddio’r ffordd:

  • drwy ei hawl i’w defnyddio, heb yr angen am ganiatâd
  • am 20 mlynedd neu’n fwy
  • heb ymyrraeth

Caiff yr 20 mlynedd hynny eu cyfrifo am yn ôl o’r dyddiad y cafodd hawl y cyhoedd i ddefnyddio’r ffordd ei chwestiynu.

Ar adegau prin, gellir cymryd bod ffordd yn bodoli dan gyfraith gyffredin. Mewn achosion o’r fath:

  • ni fyddai tystiolaeth o weithredoedd sy’n dod â hawl dramwy i amheuaeth, megis rhwystr ar ffordd sy’n cael ei hawlio
  • byddai llai nag 20 mlynedd o brawf o ddefnydd

O ran y diwethaf, mae’n bosibl y gall yr hawliad gael ei wneud dan gyfraith gyffredin, gan na fyddai’n bosibl defnyddio Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol.

Gwnewch gais am DMMO

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol yn gymhleth ac yn cymryd amser. Felly cyn gwneud cais, dylai ymgeiswyr posibl gysylltu â swyddog o’r Adran Hawliau Tramwy.

Argymhellir y dylid seilio mapiau, sy’n gysylltiedig â cheisiadau am Orchmynion Map Diffiniol, ar fapiau Arolwg Ordnans, ac mae copïau ohonynt ar gael oddi wrth bob safle manwerthu cyffredin ac asiantaethau Arolwg Ordnans.

Yn anffodus, nid yw’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gallu cyflenwi copïau o fapiau i’w defnyddio gyda cheisiadau am Orchmynion Map Diffiniol.

Gallwch wneud cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol drwy ddefnyddio’r ffurflenni canlynol:

Diddymu llwybr cyhoeddus:

  • Darllenwch ganllawiau WCA. 1
  • Cwblhewch Ffurflenni WCA 5, 6 a 7 fel sy’n briodol

Llwybr cyhoeddus newydd wedi ei hawlio:

  • Darllenwch Ganllawiau WCA 2
  • Cwblhewch Ffurflenni WCA 5, 6 a 7 fel sy’n briodol

Uwchraddio/israddio llwybr cyhoeddus:

  • Darllenwch Ganllawiau WCA 3
  • Cwblhewch Ffurflenni WCA 5, 6 a 7 fel sy’n briodol

Amrywiad i’r datganiad ar gyfer llwybr cyhoeddus:

  • Darllenwch Ganllawiau WCA 4
  • Cwblhewch Ffurflenni WCA 5, 6 a 7 fel sy’n briodol

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi eu llenwi at:

Cyfeiriad: Yr Adran Hawliau Tramwy, Depo Waterton, Waterton Road, CF31 3YP.
Cyfeiriad ebost: rightsofway@bridgend.gov.uk

Gwrthwynebu hawl tramwy sy'n cael ei hawlio

Gall tirfeddianwyr wrthod hawliad os:

  • oes modd iddynt ddangos diffyg bwriad i neilltuo’r tir
  • cymerwyd camau i osgoi cronni hawliau’r cyhoedd

Un o’r camau y gellir eu cymryd yw ychwanegu datganiad. Caiff y camau ar gyfer ychwanegu datganiad eu hegluro yn Adran 31 (6) o Ddeddf Priffyrdd 1980.

Footpath 11

Cysylltu

Cyfeiriad: Hawliau Tramwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Canolfan Tredŵr, Heol Tredŵr, CF31 3YP.
Ffôn: 01656 642537
Cyfeiriad ebost: rightsofway@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top