Prydau ysgol gynradd

Mae pob disgybl ysgol gynradd yn y fwrdeistref sirol bellach yn gymwys i gael prydau ysgol gynradd am ddim cynhwysol. Mae'r cynllun yn rhan o fenter Prydau Ysgol Gynradd am Ddim Cynhwysol Llywodraeth Cymru.

Atgoffir rhieni a gofalwyr disgyblion cynradd nad oes angen gwneud cais, gan y bydd disgyblion yn cael y ddarpariaeth yn awtomatig.

Mae’r bwydlenni’n cylchdroi bob tair wythnos. Mae hyn yn sicrhau amrywiaeth sy’n canolbwyntio ar ffrwythau, llysiau a saladau ffres. 

Oherwydd ein hymrwymiad i fwyta’n iach:

  • Rydym wedi addasu ein rysetiau er mwyn lleihau faint o siwgr, halen a braster a gynhwysir, yn ogystal â chynyddu ffibr
  • Rydym yn osgoi ychwanegion a lliwiau artiffisial, ac nid ydym yn fwriadol yn defnyddio bwyd sydd â chynhwysion sydd wedi eu haddasu'n enetaidd (GM)
  • Mae'r holl fwyd yn cael ei bobi neu ei stemio, ac eithrio sglodion sydd ond yn cael eu gweini un waith yr wythnos.
  • Mae ffrwythau ffres, bara grawn cyflawn, iogwrt, caws a bisgedi, hufen ia, llaeth hanner sgim a dŵr ar gael yn ddyddiol.
  • Rydym yn ystyried eich plentyn fel cwsmer sy'n cael ei werthfawrogi, ac rydym yn gweini'r holl blant mewn modd cyfeillgar, cefnogol.

Gwybodaeth am alergeddau

Sylwer y gall ein bwydlenni/bwyd gynnwys alergenau. 

Diweddariad Alergedd Brys

O ganlyniad i ddiweddariad diweddaraf yr Asiantaeth Safonau Bwyd dyddiedig 27.9.24, ynghylch eu dadansoddiad helaeth o'r gadwyn fwyd a'u hymchwiliadau parhaus i’r posibilrwydd bod cynhyrchion mwstard wedi’u halogi â physgnau.

Byddwn yn atal cyflenwi rhai bwydydd dros dro fel mesur rhagofalus ar ein bwydlen sydd naill ai'n cynnwys mwstard neu sy’n datgan "gall gynnwys" mwstard, hadau mwstard, powdr mwstard, neu flawd mwstard i unrhyw ddisgybl sydd wedi’i gofnodi ag alergedd cnau.

Mae'n parhau i fod yn bwysig iawn bod unrhyw un sydd ag alergedd pysgnau yn osgoi bwyta cynhyrchion sy'n cynnwys cynhwysyn mwstard.

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn diweddaru adalwadau cynnyrch cyhoeddedig ar eu gwefan.

Hyd yn hyn ni fu unrhyw adalw cynnyrch ar gynhyrchion prydau ysgol a ddefnyddir ar ein bwydlen.

Bwydlenni arbennig ar gyfer plant sydd ag alergedd/ anofeddedd bwyd

Gellir creu cynllun bwydlen yn benodol ar gyfer eich plentyn. 

Bydd angen gwybodaeth feddygol/ddietegol, a bydd ein tîm rheoli sydd wedi’i hyfforddi ar faeth yn gweithio gyda chi i baratoi bwydlen addas.

Byddwn yn rhoi gwybod i ysgol a thîm arlwyo eich plentyn a dywedir wrthynt am yr alergedd/anoddefedd ac yn derbyn y fwydlen yn ddyddiol.

I drafod anghenion eich plentyn, cysylltwch â Gwasanaethau Arlwyo:

Ffôn: 01656 815963
Cyfeiriad ebost: catering@bridgend.gov.uk

Clybiau brecwast

Mae’r cynllun hwn yn darparu brecwastau iachus am ddim bob diwrnod ysgol.

Mae clybiau brecwast yn cael eu cynnal mewn ysgolion cynradd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont.

Maent yn gweini grawnfwyd, tost, darnau o ffrwythau a dewis o laeth neu sudd ffrwythau.

Llaeth am ddim i blant ysgolion cynradd

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr, rhoddir llaeth ysgol am ddim i:

  • plant o dan bump oed mewn ysgolion y wladwriaeth, cyhyd â bod y plentyn yn yr ysgol am o leiaf dwy awr y dydd
  • plant hŷn mewn ysgolion y wladwriaeth hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, sef saith oed fel arfer

Cynigir llaeth wedi’i gymorthdalu i blant saith i unarddeg oed mewn nifer fach o ysgolion. Cysylltwch ach ysgol i gael rhagor o wybodaeth.

Gellir cynnig llaeth geifr, defaid a llaeth gyda llai o lactos yn ôl disgresiwn ysgol, ond ni ddarperir dewisiadau nad ydynt yn gynnyrch llaeth.

Mae’r cynllun yn ddewisol ar gyfer ysgolion ac mae’n bosibl y bydd rhai ohonynt yn cynnig llaeth am ddim i’w disgyblion iau, ond nid i’r rhai hŷn - Cynllun Cymhorthdal Llaeth yn yr Ysgol 

Mae bwydlenni ysgolion cynradd yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion, safonau bwyd, diodydd a maetholion Llywodraeth Cymru.

Mae arlwyo ysgol yn meddu ar enw rhagorol am lanweithdra a hylendid. Rydym yn bodloni’r holl reoliadau iechyd, diogelwch a hylendid.

Mae gweithdrefnau prynu yn dod o hyd i gynhwysion diogel ac yn sicrhau dulliau dosbarthu a storio priodol er mwyn cynnal a chadw’r lefelau uchaf o ran diogelwch bwyd.

Cyfraith Natasha 2021

O 1 Hydref 2021 daeth deddfwriaeth newydd a elwir yn Gyfraith Natasha i rym.  Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd a fyddai'n darparu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw ar gyfer ei werthu’n uniongyrchol (PPDS) gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, prifysgolion a meithrinfeydd sy'n darparu bwyd.

Ar gyfer bwyd a ddarperir mewn lleoliad ysgol, golygai hyn newidiadau i labelu brechdanau a bagéts yn unig, gan fod y rhain yn cael eu gwneud a'u pecynnu ymlaen llaw ar y safle cyn i'r cwsmer eu harchebu.  Rhaid pwysleisio cynhwysion alergenaidd ar y rhestr labelu.

Nid yw PPDS yn cynnwys bwyd na chaiff ei roi mewn deunydd pecynnu.  Nid yw bwyd a roddir mewn deunydd pecynnu neu ei roi ar blât ar gais y pobl fydd yn ei fwyta yn PPDS.

Chwilio A i Y

Back to top